Iran - mae'r byd yn ansicr p'un ai ydi'r wlad wedi bod yn datblygu arfau niwclear yn y dirgel
Mae pennaeth asiantaeth niwclear y Cenhedloedd Unedig wedi hedfan i brifddinas Iran er mwyn ceisio codi cwr y llen ar ddiwydiant arfau neu bolisi egni’r wlad.

Mae’r ymweliad gan Yukiya Amano, pennaeth yr Asiantaeth Egni Atomig Rhyngwladol, yn canolbwyntio ar sicrhau fod y corff yn cael parhau i archwilio’r wlad a gweld os ydi Tehran wedi bod yn datblygu arfau niwclear yn y dirgel.

Hyd yn oed os fydd yna ddêl ar ddiwedd yr ymweliad hwn, mae diplomyddion o’r Gorllewin yn amau a fydd Iran yn anrhydeddu unrhyw gytundeb.

“Does dim byd yn sicr mewn bywyd, mewn diplomyddiaeth,” meddai Yukiya Amano wrth siarad â newyddiadurwyr ym maes awyr Fienna. “Ond rydyn ni’n gwneud camau breision.

“Rydw i’n credu mai dyma’r amser iawn i ddod i gytundeb.”

Mae’r ymweliad undydd yn un arwyddocaol, gan ei fod yn digwydd cyn trafodaethau rhwng Iran a’r Unol Daleithiau, Rwsia, China, Prydain, Ffraic a’r Almaen yn ninas Baghdad yr wythnos hon.

Mae’r chwe gwlad yn ceisio perswadio llywodraeth Tehran i roi’r gorau i’w rhaglen niwclear, ac maen nhw am weld Iran yn rhoi’r gorau i’r nod o gynhyrchu arfau niwclear.