Protestwyr yn ceisio tynnu sylw Barack Obama at nifer o faterion
Mae miloedd o brotestwyr wedi gorymdeithio trwy Chicago yn un o brotestiadau mwya’r ddinas mewn blynyddoedd. Roedden nhw’n tynnu sylw at eu pryderon ynglyn â rhyfel, newid yn yr hinsawdd, ymysg pethau eraill.

Roedd arweinwyr gwledydd NATO yn cyfarfod yn y ddinas.

Roedd y brotest, a fu’n corddi ers misoedd, yn dod â nifer o garfannau at ei gilydd – wrth i weithredwyr yn erbyn rhyfel uno â chyn-filwyr a phrotestwyr gwrth-gyfalafol. Ond efallai bod yr amrywiaeth o bynciau wedi gwanhau’r neges yn y diwedd.

Yn y diwedd, fe fu gwrthdaro rhwng grwp bychan o’r protestwyr â swyddogion yr heddlu a oedd yn ceisio eu cadw draw o’r ganolfan gynadledda lle’r oedd yr Arlywydd Barack Obama yn llywyddu’r cyfarfod.

Fe fu’r protestwyr yn ceisio symud yn eu blaenau i gyfeiriad McCormick Place, a rhai ohonyn nhw’n taflu priciau a photeli at yr heddlu. Fe fu’r ddwy ochr ben-ben am bron i ddwy awr. Fe fu mwy o wrthdaro yn ystod y nos.

Ar ddiwedd gwrthdaro’r prynhawn, fe ddaeth cyhoeddiad gan Heddlu Chicago yn dweud fod 45 o bobol wedi eu harestio, a bod pedwar o swyddogion wedi eu hanafu – un o’r rheiny wedi ei drywanu yn ei goes.

Fe fu rhai cannoedd o brotestwyr yn ymgynnull ger Sefydliad Celfyddydol Chicago, tra’r oedd gwraig yr Arlywydd, Michelle Obama, yn cynnal parti ar gyfer gwragedd a gwyr y gwleidyddion y tu mewn. Roedd tua 100 o heddweision gydag offer atal reiat yn y fan honno.