Mae Abdelbaset al-Megrahi, yr unig berson sydd erioed wedi ei gael yn euog o achosi bomio Lockerbie, wedi marw o ganser ym mhrifddinas Libya, Tripoli.

Cafodd 270 o bobol eu lladd o ganlyniad i’r ffrwydrad mewn awyren uwchben tref Lockerbie yn yr Alban yn 1988.

Cafodd Abdelbaset al-Megrahi, oedd yn 60 oed, ei ryddhau o garchar yn yr Alban yn 2009 ar sail dyngarol. Y gred bryd hynny oedd mai ychydig fisoedd oedd ganddo i fyw.

Cafwyd ef yn euog o fomio Lockerbie mewn llys arbennig yn yr Iseldiroedd yn 2001. Serch hynny roedd yn gwadu iddo fomio ehediad 103 Pan Am ym mis Rhagfyr 1988.

Cyhoeddodd ei frawd Abdulhakim heddiw bod eich iechyd wedi dirywio’n gyflym a’i fod wedi marw yn ei gartref am 11am (1pm amser Tripoli).

Yn dilyn cwymp yr unben Muammar Gaddafi ym mis Awst, daethpwyd o hyd i Abdelbaset al-Megrahi yn byw yn Tripoli.

Roedd mewn cyflwr bregus ac yn colli ymwybyddiaeth yn aml.