Mae tri o bobol wedi eu lladd yn dilyn daeargryn 5.9 ar y raddfa Richer yn Bologna yng ngogledd yr Eidal.

Tarodd y daeargryn am 4am amser yr Eidal, 21.75 milltir i’r gogledd-orllewin i Bologna.

Dywedodd asiantaeth newyddion Eidalaidd Ansa, bod dau berson wedi marw yn Sant’Agostino di Ferrara pan chwalodd ffatri nwyddau ceramig.

Cafodd person arall ei ladd yn Ponte Rodoni do Bondeno.

Dyma’r daeargryn fwyaf yn y wlad ers un 5.4 ar y raddfa Richter yng ngogledd yr Eidal  ddiwedd mis Ionawr.

Bryd hynny bu’n rhaid gwagio rhai swyddfeydd yn Milan wedi i graciau ymddangos ynddyn nhw.