Ratko Mladic
Mae’r achos yn erbyn cyn bennaeth lluoedd Serbia Ratko Mladic, wedi cael ei ohirio am y tro gan farnwr yn Yr Hâg.

Mae’n debyg bod “gwallau” wedi cael eu gwneud gan yr erlyniad wrth roi tystiolaeth i gyfreithwyr Mladic.

Dywedodd Alphons Orie bod barnwyr yn dal i ystyried beth fydd effaith y gwallau hyn ac mae disgwyl iddo gyhoeddi dyddiad ar gyfer ail-ddechrau’r achos “cyn gynted â phosib”.

Roedd yr erlyniad eisoes wedi cyfaddef bod gwallau wedi cael eu gwneud ac nid oedden nhw’n gwrthwynebu gohirio’r achos. Mae cyfreithwyr Mladic wedi galw am ohirio’r achos am chwe mis.

Mae Mladic, 70, yn cael ei gyhuddo o lofruddio miloedd o ddynion Mwslimaidd yn Bosnia Srebrenica ym mis Gorffennaf 1995, y gyflafan waethaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.

Credir bod rhwng 7,000 a 8,000 wedi eu lladd gan luoedd Serbia yn ystod y cyfnod yma.