Cynghorydd Dilwyn Roberts
Mae Plaid Cymru am barhau i arwain Cyngor Conwy ar ôl i’r Cynghorydd Dilwyn Roberts gael ei ethol yn Arweinydd y bore ‘ma.

Mae Dilwyn Roberts yn ail-gydio yn y swydd yr oedd yn dal cyn yr etholiadau ar 3 Mai.

Mae Cyngor Conwy yn cael ei redeg gan glymblaid o bedwar grŵp, ond nid oes lle ar y bwrdd i’r blaid a gafodd y ganran uchaf o’r pleidleisiau yn y sir, sef y Ceidwadwyr.

Ar y Cabinet o 10 cynghorydd mae 3 o Blaid Cymru, 3 o Lafur, 4 Annibynnol ac un Democrat Rhyddfrydol.

Cafodd y Cynghorydd Stuart Anderson ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2012/13 a’r Cynghorydd Liz Roberts ei hethol yn is-Gadeirydd