Francois Hollande
Nid oedd economi Ffrainc wedi tyfu o gwbl yn chwarter cynta’r flwyddyn gan godi pryderon bod y wlad yn wynebu dirwasgiad.

Roedd cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) wedi aros yn ei unfan o fis Ionawr i fis Mawrth, yn ôl ystadegau gan gwmni Insee heddiw.

Mae rhai arbenigwyr yn disgwyl i GDP ddechrau crebachu yn y chwarter nesaf.

Daw’r newydd wrth i’r  Arlywydd newydd Francois Hollande ddechrau yn swyddogol yn ei waith. Mae wedi addo adfer economi Ffrainc drwy fuddsoddi mewn busnesau ac mae hefyd yn dweud y bydd yn mynd i’r afael â dyledion y wlad – tasg a fydd yn anoddach oherwydd y diffyg twf yn yr economi.