Mae mwy na 55 o bobl wedi cael eu lladd ar ôl i ddau fom ffrwydro ym mhrifddinas Syria.
Cafodd o leiaf 370 eu hanafu yn y ffrwydrad mewn adeilad milwrol yn ardal Qazaz yn Namascus.
Mae’r llywodraeth wedi rhoi’r bai ar derfysgwyr, er nad oes unrhyw grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn.
Fe ffrwydrodd y bom tua 7.50am pan oedd staff yn cyrraedd eu gwaith.