Mae Sbaen wedi dychwelyd i gyfnod o ddirwasgiad ar ôl i economi’r wlad grebachu 0.4% yn chwarter cynta’r flwyddyn.

Mae’n dilyn gostyngiad o 0.3% yn chwarter ola’r flwyddyn y llynedd. Dyma ail ddirwasgiad Sbaen o fewn tair blynedd.

Daw’r cyhoeddiad ddyddiau’n unig ar ôl i statws credyd y wlad gael ei israddio gan Standard & Poor.