Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae o leiaf 28 o bobl wedi cael eu lladd gan luoedd llywodraeth Syria wrth iddyn nhw barhau eu cyrchoedd ar drefi sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr.
Cafodd o leiaf 24 eu lladd ar gyrion dinas Hama heddiw wrth i filwyr y llywodraeth danio ffrwydron atynt, a chafodd o leiaf bedwar arall eu lladd mewn amgylchiadau tebyn yn nhalaith Homs gerllaw.
Daeth y newyddion wrth i lywodraeth America ddangos lluniau lloeren o symudiadau milwyr sy’n taflu amheuon pellach a yw llywodraeth Syria’n bwriadu cydymffurfio â chynllun heddwch ai peidio.
Mae arlywydd Syria, Bashar Assad, wedi derbyn cadoediad a gafodd ei drefnu gan gyn-ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan. Mae’r cytundeb yn ei gwneud hi’n ofynnol i Assad dynnu ei luoedd allan o drefi a dinasoedd erbyn dydd Mawrth ac i’r llywodraeth a’r gwrthryfelwyr rio’r gorau i ymladd erbyn 6am fore Iau.
Ond mae trais cynyddol y dyddiau diwethaf wedi arwain at gyhuddiadau fod Assad yn gwneud cymaint ag y gall i fygu’r gwrthryfel yn ei erbyn cyn y cadoediad.
“Maen nhw’n mynd ati’n systematig i fygu’r gwrthryfel waeth beth fo’r gost ddynol,” meddai Mohammad Saeed, un o’r ymgyrchwyr ym maestref Douma o’r brifddinas Damascus.
Lluniau lloeren
Dywedodd llysgennad America yn Syria, Robert Ford, fod y llywodraeth wedi tynnu rhai o’i lluoedd yn ôl, ond eu bod wedi eu cadw nhw mewn lleoedd eraill, neu heb wneud dim ond symud milwyr a cherbydau o gwmpas.
Dywedodd ei fod yn seilio’i wybodaeth ar luniau lloeren, a bod yr ymosodiadau ar gadarnleoedd y gwrthryfelwyr wedi parhau.
“Nid dyma’r math o leihad mewn gweithgareddau ymosodol gan lywodraeth Syria y mae pawb yn cytuno sy’n angenrheidiol fel y cam cyntaf er mwyn i gytundeb Annan lwyddo,” meddai ‘r llysgennad mewn datganiad.
“Dylai’r gyfundrefn a phobl Syria wybod ein bod ni’n gwylio. All y gyfundrefn ddim cuddio’r gwir.”