Gweddillion y bloc o fflatiau ar ôl y gwrthrdrawiad yn Virginia Beach ddoe (AP Photo/Llynges America)
Cafodd amryw o bobl ddihangfa wyrthiol pan hyrddiodd un o awyrennau ymladd Llu Awyr America i floc o fflatiau mewn damwain yn Virginia ddoe.

Llwyddodd y ddau beilot i neidio allan cyn y gwrthdrawiad, gan ddioddef mân anafiadau’n unig.

Ac er i’r gwrthrawiad achosi ffrwydrad a thân anferth, gan ddinistrio’r bloc o fflatiau’n llwyr, ni chredir bod neb wedi cael eu lladd.

Fe aed â phump o’r trigolion i’r ysbyty am driniaeth am fân anafiadau, ac fe gawson nhw eu rhyddhau’n ddiweddarach.

Cafodd tua 40 o fflatiau eu difrodi neu eu dinistrio yn y ddamwain.

Roedd yr awyren, a ddisgynnodd 10 milltir o orsaf awyr Oceana, wedi cael gwared ar lawer o’i thanwydd cyn y gwrthdrawiad.