Mae arolygwyr niwclear y Cenhedloedd Unedig wedi cyrraedd Iran er mwyn ceisio cynnal trafodaethau am raglen niwclear y wlad.

Dyma’r ail ymweliad o fewn mis gan yr Asiantaeth Ynni Niwclear Rhyngwladol (IAEA) gan adlewyrchu’r pryderon am arbrofion arfau. Hyd yn hyn mae Iran wedi gwadu bod arbrofion o’r fath yn cael eu cynnal ac wedi gwrthod trafod y mater.

Mae’r Gorllewin yn amau Iran o greu arfau niwclear, ond mae Iran yn mynnu mai cynhyrchu pŵer yn unig yw’r nod.

Mae tîm yr IAEA yn awyddus i gynnal trafodaethau gyda’r gwyddonwyr yn Iran sy’n cael eu hamau o greu arfau niwclear. Mae nhw hefyd yn gobeithio cael sicrhad gan awdurdodau Iran i ganiatáu ymweliadau yn y dyfodol.