Arlywydd Bashar Assad
Mae byddinoedd llywodraeth Syria wedi ailgydio yn yr ymosodiadau ar ddinas Homs heddiw, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae pennaeth hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig wedi dweud ei bod hi’n poeni y bydd yna ryfel cartref yn Syria.
Dywedodd y grŵp ymgyrchu Cydlynu Pwyllgorau Lleol heddiw fod y llywodraeth wedi cychwyn ar gyfnod o “fomio creulon.”
Mae byddinoedd Syria wedi bod yn bomio’r ddinas am fwy nag wythnos. Dechreuodd y bennod ddiweddaraf o’r ymgyrch i gymryd y ddinas ddydd Sadwrn.
Miloedd wedi eu lladd
Dywedodd Navi Pillay, pennaeth hawliau dynol y CU, fod methiant y Cyngor Diogelwch i weithredu yn y Cyngor Diogelwch wedi annog llywodraeth Syria i gychwyn ymosodiad anferth i drechu’r gwrthryfelwyr.
Dywedodd hi wrth Gynulliad Cyffredinol y CU fod mwy na 5,400 o bobl wedi eu lladd yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, a bod nifer y meirw a’r cleifion yn cynyddu bob dydd.
Dywedodd hi hefyd fod degau o filoedd o bobl, gan gynnwys plant, wedi eu harestio gan y llywodraeth. Mae mwy na 18,000 wedi eu carcharu heb achos, a miloedd eraill wedi diflannu.
Soniodd hi hefyd fod 25,000 o bobl wedi gadael Syria, a bod 70,000 o bobl yn Syria wedi colli eu cartrefi.
“Mae’r ymosodiadau ar ddinasyddion gan rymoedd milwrol a diogelwch, a’r dinistr helaeth o dai, ysbytai, ysgolion ac isadeiledd sifil, yn arwydd o ganiatâd neu gydweithrediad gan yr awdurdodau ar y lefel uchaf un,” dywedodd hi.
Tseina yn cyfarfod a’r Gynghrair Arabaidd
Mae Tseina wedi cadarnhau heddiw fod llysgennad wedi cynnal trafodaethau gyda phennaeth y Gynghrair Arabaidd.
Daw’r cyfarfod yn sgil defnydd Tseina o’r feto i wrthwynebu cynnig y Cenhedloedd Unedig i geisio rhoi pwysau ar yr Arlywydd Bashar Assad i ymddiswyddo.
Yn ôl datganiad gan y Weinidogaeth Dramor heddiw, roedd Li Huaxin wedi teithio i Cairo, lle cafodd trafodaethau “eithriadol o ddidwyll a defnyddiol” gyda Nabil Elaraby, ysgrifennydd cyffredinol y Gynghrair Arabaidd.
Mae’r Gynghrair Arabaidd wedi gofyn i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gytuno ar awdurdod ar gyfer ymgyrch cadw’r heddwch ar y cyd gan y Cenhedloedd Unedig ac Arabiaid o wledydd cyfagos.
Disgwylir i’r Arlywydd Barack Obama godi’r mater pan fydd yn cwrdd a Is Arlywydd Tseinayn y Tŷ Gwyn yn Washington heddiw.