Arlywydd Assad
Mae dynion arfog wedi lladd uwch gadfridog yn y fyddin yn Namascus, yn ôl asiantaeth newyddion swyddogol Syria.

Dyma’r tro cyntaf i uwch swyddog gyda’r fyddin gael ei ladd yn y brifddinas ers i’r chwyldro yn erbyn yr Arlywydd Bshar Assad ddechrau mis Mawrth diwethaf.

Dywedodd yr asiantaeth newyddion SANA fod tri gŵr arfog wedi saethu at y Cadfridog Issa al-Khouli heddiw wrth iddo adael ei gartref yn ardal Rukn-Eddine o’r brifddinas.

Roedd yn feddyg ac yn bennaeth ar ysbyty filwrol yn Namascus. Hyd yn hyn, tydi trigolion Damascus ddim wedi dioddef llawer o drais o’i gymharu â rhai dinasoedd eraill yn y wlad.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae dros 5,400 o bobl wedi cael eu lladd wrth i’r Arlywydd Assad geisio cadw rheolaeth ar Syria.