Mitt Romney
Mae Mitt Romney wedi hawlio buddugoliaeth yn rhagetholiad y Gweriniaethwyr yn Fflorida gan guro Newt Gingrich a chymryd cam yn nes at fod yn ymgeisydd y blaid i herio’r Arlywydd Barack Obama.

Mae Mitt Romney wedi adennill tir ar ôl iddo golli i Newt Gingrich yn Ne Carolina ar 21 Ionawr.

Mae Newt Gingrich wedi mynnu y bydd yn parhau i frwydro mlaen.