Senedd-dy Brwsel
Mae cyfres o streiciau yng Ngwlad Belg wedi parlysu trafnidiaeth gyhoeddus a’r gwasanaeth trenau heddiw.
Mae’r gweithwyr yn protestio yn erbyn toriadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd.
Oriau cyn uwch-gynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel, fe gyhoeddodd rhai o brif undebau Gwlad Belg eu bod yn cynnal streic.
Mae nhw’n dadlau y dylai’r ymdrechion i hybu economi Ewrop ganolbwyntio ar drethu’r cwmniau mawr yn hytrach na thorri gwasanaethau cyhoeddus a chyflwyno newidiadau i bensiynau a fydd yn gorfodi pobl i weithio’n hirach am lai o bres.
Roedd un maes awyr ar gau ac roedd na oedi ym maes awyr rhyngwladol Brwsel gyda rhai teithiau yn cael eu canslo.