Mae capten y llong bleser a suddodd ger arfordir Tuscany yn yr Eidal yn cael ei gadw dan glo yn ei gartref yn dilyn ymddangosiad llys.

Mae’r Capten Francesco Schettino wedi ei gyhuddo o ddynladdiad, o achosi llongddrylliad a gadael y llong tra bod rhai teithwyr yn dal yn gaeth ynddi.

Mae nifer y rhai sydd wedi marw ers i’r Costa Concordia daro yn erbyn creigiau ddydd Gwener wedi codi i 11 ar ôl i bump o gyrff gael eu darganfod ddoe. Mae hyd at 24 o bobl yn dal ar goll ond pylu mae’r gobeithion bellach o ddod o hyd i unrhywun yn fyw, yn ôl gwylwyr y glannau.

Fe fydd y gwaith yn dechrau heddiw o geisio diogelu’r llong a symud y tanwydd oddi ar y llong.