Mae 53 o bererinion Shiite wedi cael eu lladd a 137 wedi cael eu hanafu mewn ffrwydrad gerllaw dinas Basra yn ne Irac.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraethwr y dalaith nad yw hi’n glir eto os cafodd ei ffrwydrad ei achosi gan hunan-fomiwr neu fom ar ochr ffordd.
Rhybuddiodd pennaeth gwasanaeth iechyd y dalaith y gall nifer y marwolaethau godi gan fod rhai o’r rheini a gafodd eu hanafu mewn cyflwr difrifol.
Y ffrwydrad oedd y diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau sectyddol yn ystod dathliadau crefyddol gan Fwslimiaid Shiite.