Mae
Aung San Suu Kyi
wedi dweud bod y Llywodraeth yn Burma wedi cymeradwyo ei phlaid ar gyfer yr is etholiadau.

Yn ôl yr arweinydd heddwch, fe gafodd y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth ei derbyn yn ffurfiol heddiw ar gyfer yr is etholiadau.

Cafodd Aung San Suu Kyi, cyn-enillydd Gwobr Heddwch Nobel, ei rhyddhau ar 13 Tachwedd y llynedd ar ôl bod yn gaeth yn ei chartref am dros saith mlynedd.

Cyn y Nadolig, fe wnaeth y blaid benderfynu ail ymuno â gwleidyddiaeth yn y wlad filwrol. Fe ddywedodd llefarydd ar ran y blaid y bydd y Gynghrair yn dechrau derbyn aelodau newydd ddydd Llun.

Mewn cyfweliad yn ei chartref, mae Aung San Suu Kyi wedi gwrthod datgelu a fydd hi’n sefyll yn yr etholiad.

Fe wnaeth y blaid foicotio’r etholiadau cyffredinol yn 2010 oherwydd cyfyngiadau oedd yn rhwystro Aung San Suu Kyi rhag bod yn ymgeisydd.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague ar ymweliad a Burma ar hyn o bryd – y tro cyntaf i ysgrifennydd tramor o Brydain ymweld a’r wlad ers mwy na hanner canrif. Ei fwriad yw ceisio annog y wlad i gyflwyno newidiadau gwleidyddol cyn gynted a phosib.