Arlywydd Assad Syria (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae adroddiadau fod hyd at 28 o brotestwyr wedi cael eu saethu’n farw gan filwyr llywodraeth Syria yn y brifddinas Damascus.

Cafodd nifer fawr o’r rhain eu lladd yn agos i adeilad lle’r oedd aelodau o’r garfan o sylwebwyr sydd wedi cael eu hanfon i’r wlad gan y Gynghrair Arabaidd.

Yn ôl un o’r mudiadau hawliau dynol yn Syria, roedd tua 20,000 o bobl yn protestio’r tu allan i’r Mosg Mawr ym maestref Douma o’r brifddinas pan daniodd y milwyr. Roedd y protestwyr yn ceisio tynnu sylw sylwebwyr y Gynghrair Arabaidd a oedd yn ymweld ag adeilad dinesig gerllaw.

Mae cyfanswm y marwolaethau sy’n cael eu hamcangyfrif gan wahanol ymgyrchwyr yn y wlad yn amrywio o 16 i 28.

Fe ddaeth y 60 o sylwebwyr o’r Gynghrair Arabaidd i gychwyn ar eu gwaith dydd Mawrth, a nhw yw’r rhai cyntaf y mae Syria wedi eu gadael i’r wlad yn ystod y naw mis o wrthryfel yn y wlad. Eu tasg yw sicrhau bod cyfundrefn Bashar Assad yn cydymffurfio ag amodau cynllun y Gynghrair Arabaidd i roi’r gorau i’r ymosodiadau treisgar ar brotestwyr.

Dywed y Cenhedloedd Unedig fod lluoedd Assad wedi lladd dros 5,000 o bobl ers mis Mawrth.