Mae milwyr UDA bellach wedi gadael Irac
Mae o leiaf 49 o bobl wedi eu lladd a dwsinau wedi eu hanafu mewn cyfres o ffrwydradau yn Baghdad.

Roedd naw bom wedi ffrwydro yn ystod y trais gwaethaf yn y wlad ers i argyfwng gwleidyddol ailgynnau rhwng y carfanau Sunni a Shiite ar y penwythnos.

Roedd yr ymosodiad gwaethaf yn ardal al-Amal, lle roedd swyddogion a phobol oedd yn ceisio achub y rhai oedd wedi eu hanafu mewn ffrwydrad blaenorol, wedi eu targedu. Cafodd amryw eu lladd yng ngorllewin Baghdad ar ôl i ddau fom ffrwydro ar ochr y ffordd.

Daw’r ymosodiadau diweddara ddyddiau’n unig ar ôl i luoedd yr Unol Daleithiau adael Irac.