Llun o'r gofod o ardal Cagayan de Oro (Llun NASA)
Mae pryder y gallai nifer y meirwon yn nhrychineb y Philipines godi i bron 1,000 o bobol.

Yn ôl y Groes Goch yn y wlad, mae 521 o gyrff wedi eu cael eisoes ond mae 458 o bobol ar goll o hyd.

Yr ofn yw fod rhagor nad oes neb yn gwybod amdanyn nhw mewn pentrefi anghysbell sy’n dal i fod wedi eu hynysu gan ddifrod y llifogydd.

Yn ôl llefarydd ar ran yr elusen, mae’n bosib fod teuluoedd cyfan wedi eu colli a neb wedi gallu rhoi gwybod am hynny.

Mae prinder eirch a bagiau cyrff ar ôl y llifogydd a ruthrodd i lawr o’r mynyddoedd ddydd Gwener ar ôl tua 12 awr o law.

Yn ôl llywodraeth y wlad, doedden nhw ddim wedi disgwyl cymaint o farwolaethau.

Y ddwy ddinas a gafodd eu taro waetha’ yw Cagayan de Oro ac Iligan, lle mae o 229 a 195 o farwolaethau wedi’u cofnodi.