Protesiadau yn Syria
Mae dwsinau o luoedd arfog Syria wedi cael eu gorchymyn i ladd, arteithio ac arestio pobol yn anghyfreithlon ers i brotestiadau yn erbyn y llywodraeth yno ddechrau naw mis yn ôl, yn ôl sefydliad hawliau dynol.

Mae’r ddogfen 88 tudalen gan yr Human Rights Watch, wedi ei sylfaenu ar 60 cyfweliad gyda rhai a drodd eu cefn ar lywodraeth y wlad ar ôl bod yn y lluoedd arfog neu yn y gwasanaethau cudd.

Mae’r adroddiad yn adnabod 74 uwch-swyddog yn y lluoedd fel y rhai oedd wrth gefn y trais.

“Dylai bob un swyddog sy’n cael eu henwi yn yr adroddiad hwn, fyny i lefelau uchaf llywodraeth Syria, orfod ateb am eu troseddau yn erbyn pobol Syria,” meddai Anna Neistat, sy’n un o gyfarwyddwyr Human Rights Watch.

Mae’r adroddiad yn dweud dylai Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig drosglwyddo achos Syria i’r Llys Troseddau Rhyngwladol ar sail y trais.

Mae llywodraeth Syria ei hun yn honni mai grŵp terfysgol sydd wrth gefn y terfysgoedd, ac nid protestwyr sy’n hawlio mwy o ryddid a newid yn un o lywodraethau mwyaf totalitaraidd y Dwyrain Canol.

Ond mae’r arlywydd, Bashar Assad, yn dal i gau’r wlad i bobol o’r tu allan, tra’n dal i honni mai tramorwyr eithafol sy’n gyrru’r protestiadau.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi wfftio’r honiadau hyn yn gyfan gwbwl, gan roi’r cyfrifoldeb wrth ddrws y llywodraeth am annog llofruddiaeth eang, a threisio ac arteithio yn erbyn protestwyr.