Y sgwar yn Liege

Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff gwraig mewn adeilad oedd yn cael ei ddefnyddio gan ddyn arfog oedd wedi ymosod ar siopwyr yn ninas Liege yng Ngwlad Belg ddoe.

Mae nifer y rhai fu farw bellach wedi cod ii chwech – gan gynnwys yr ymosodwr ei hun, Nordine Amrani.

Roedd Nordine Amrani wedi ymosod ar y siopwyr gyda ffrwydron llaw a dryll mewn sgwâr brysur ynghanol y ddinas.

Ymhlith y rhai eraill gafodd eu lladd roedd dau fachgen 15 a 17 oed,  gwraig 75 oed a phlentyn 18 mis oed.

Cafodd 122 o bobol eraill eu hanafu yn yr ymosodiad.

Mae’n debyg bod corf y ddynes wedi ei ddarganfod mewn warws oedd yn cael ei ddefnyddio gan Amrani i dyfu cannabis.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd wedi ysgogi Amrani i ymosod ar y siopwyr yn Place Saint Lambert.

Roedd Amrani, 33, yn byw yn Liege ac wedi bod yn y carchar am droseddau’n ymwneud â drylliau, cyffuriau a chamdrin rhywiol.

Dyw’r heddlu heb gadarnhau a oedd Amrani wedi lladd ei hun neu wedi marw drwy ddamwain, ond ni chafodd ei ladd gan yr heddlu.

Roedd gan Amrani nifer o ffrwydron gydag o pan fu farw. Roedd cannoedd o siopwyr wedi rhedeg ar hyd y strydoedd i geisio osgoi’r ffrwydradau a’r bwledi.

Dywedodd llefarydd ar ran  Llywodraeth Gwald Belg nad oedd yr ymosodiad yn un terfysgol.

Fe fydd munud o dawelwch yng Ngwlad Belg heddiw i gofio’r rhai fu farw.