Vladimir Putin
Mae miloedd o bobl wedi protestio yn erbyn y llywodraeth mewn rali enfawr yn Moscow.

Daeth 50,000 o bobl  ynghyd ar ynys ger y Kremlin i ddangos eu gwrthwynebiad i’r twyll honedig yn yr etholiadau seneddol diweddar. Maen nhw am weld yr etholiadau yn cael eu hail gynnal.

Cynhaliwyd ralїoedd llai yn St Petersburg a dinasoedd eraill.

Mae’r protestwyr yn credu fod parti’r Prif Weinidog Vladimir Putin, sef y parti Rwsia Unedig, wedi twyllo eu ffordd i fuddugoliaeth.

Mae disgwyl i Putin ennill yr etholiad i fod yn arlywydd mis Mawrth nesaf. Ef oedd yr arlywydd rhwng 2000 a 2008.

Mae wedi beio’r Unol Daleithiau am y protestiadau ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol Hilary Clinton fynegi pryder am yr etholiad seneddol.