Fe fydd David Cameron ym Mrwsel heddiw ar gyfer cynhadledd yr Undeb Ewropeaidd i drafod mesurau i geisio adfer sefydlogrwydd yr ewro.

Mae disgwyl i Ffrainc a’r Almaen alw am gyfres o fesurau ar gyfer yr 17 o wledydd ym mharth yr ewro.

Fe fyddan nhw’n dweud wrth y Prif Weinidog ac arweinwyr gwledydd eraill sydd ddim yn rhan o barth yr ewro, eu bod nhw’n bwriadu bwrw mlaen â’u cynlluniau o fewn y misoedd nesaf, hyd yn oed os nad ydy’r gwledydd hynny yn rhoi eu sel bendith.

Cafodd cynlluniau Canghellor yr Almaen Angela Merkel ac Arlywydd Ffrainc Nicolas Sarkozy eu hamlinellu neithiwr mewn llythyr i gadeirydd y gynhadledd Herman Van Rompuy.

Yn ogystal â rheolau newydd ar gyfer economïau gwledydd yr ewro, mae’r ddau hefyd yn galw am dreth ar weithrediadau ariannol o fewn y parth.

Ni fyddai’r newidiadau yn amharu ar y DU ac mae’n debyg bod David Cameron yn cymeradwyo’r cynlluniau ynglŷn â’r dreth ar weithrediadau ariannol gan y byddai’n dod a mwy o fusnes i’r Ddinas yn Llundain.

Ond mae o wedi gwrthwynebu cefnogi treth ar gyfer holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd oherwydd y gallai gael effaith ar fusnes yn y Ddinas, oni bai bod y dreth yn fyd-eang.