Mae na bryder heddiw y gall statws credyd yr Almaen, Ffrainc, a 13 o wledydd eraill yr ewro gael eu hisraddio.

Mae’r pwysau ar arweinwyr gwledydd yr ewro yn dwysau ar ôl i’r asiantaeth credyd Standard & Poor ddweud eu bod yn rhoi pob un o wledydd yr ewro – ar wahân i Giprys a gwlad Groeg – o dan arolygiaeth “credyd negyddol”.

Dywed S&P eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad yn bennaf oherwydd yr argyfwng yng ngwledydd yr ewro dros yr wythnosau diwethaf.

Fe all y penderfyniad i israddio gwledydd yr ewro beryglu ymdrechion arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd i achub yr ewro, wrth i’r Almaen a Ffrainc ddod i gytundeb ynglŷn â’r argyfwng ddoe, ac wrth i’r Eidal gymeradwyo mesurau cynildeb llym i fynd i’r afael â’u dyledion.

Mae disgwyl i adolygiad S&P gael ei gwblhau ddydd Iau pan fydd cynhadledd yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ben.