Vladmir Putin
Mae disgwyl i blaid wleidyddol Prif Weinidog Rwsia, Vladimir Putin, ennill llai na 50% o’r bleidlais yn yr etholiad cyffredinol yno.

Mae’r canlyniad tebygol yn ergyd i blaid Rwsia Unedig. Yn yr etholiad bedair blynedd yn ôl fe enillodd 64% o’r bleidlais yn genedlaethol.

Mae’r canlyniadau cyntaf yn awgrymu y gallai’r blaid golli’r mwyafrif anferth yn y senedd oedd yn caniatáu iddi newid y cyfansoddiad heb orfod cyfaddawdu.

Daw’r gwymp mewn cefnogaeth yn sgil siom gan rai o bobol Rwsia ynglŷn â llygredd yn y wlad a’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd.

Mae disgwyl i’r Blaid Gomiwnyddol ennill tua 20% o’r bleidlais, yn ôl polau piniwn gan Sianel Un a Rossiya.