Mae llywodraeth Prydain heddiw yn ystyried pa fesurau i’w cymryd yn erbyn Iran, wedi i gannoedd o brotestwyr dorri i mewn i adeilad y Llysgenhadaeth Prydeinig yn Tehran.

Mae David Cameron eisoes wedi rhybuddio arweinwyr y wlad o’r “canlyniadau difrifol” yn dilyn yr ymosodiad ar yr adeilad ddoe, sy’n mynd yn groes i gyfraith rhyngwladol.

Bu protestwyr yn chwalu ffenestri, rhoi ceir ar dân, ac yn llosgi fflag Jac yr Undeb mewn portest yn erbyn Prydain.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron hefyd wedi dweud fod llywodraeth Iran yn “warthus” am fethu â diogelu staff Llysgenhadaeth Prydain rhag y gwrthdystwyr a ymosododd ar ddau ganolfan diplomyddol yn y brifddinas.

Norwy yn cau eu llysgenhadaeth

Mae Norwy nawr wedi cau eu Llysgenhadaeth yn Tehran oherwydd pryderon dros ddiogelwch ar ôl yr ymosodiad ar Lysgenhadaeth Prydain, meddai swyddog o lywodraeth Norwy heddiw.

Yn ôl llefarydd eu Gweinidogaeth Dramor, Hilde Steinfeld, cafodd y penderfyniad i gau’r Llysgenhadaeth ei gymryd yn hwyr ddoe, ond mae staff dimplomyddol Norwy yn dal yn y wlad ar hyn o bryd.

Dywedodd Hilde Steinfeld na fyddai’n mynd i fwy o fanylder heddiw, ond dywedodd fod y penderfyniad wedi dod yn sgil “pryderon diogelwch” ac “yng nghyd-destun yr ymosodiad ar Lysgenhadaeth Prydain.”