Laurent Gbagbo
Mae’r Llys Troseddau Rhyngwladol wedi cyhuddo cyn-arlywydd y Traeth Ifori o lofruddiaeth, trais, erledigaeth, a gweithredoedd anynnol heddiw.
Mae’r llys yn honni bod y troseddau hyn wedi eu cyflawni tra roedd cefnogwyr Laurent Gbagbo yn ymladd i’w gadw mewn grym y llynedd.
Laurent Gbagbo yw’r cyn-bennaeth cyntaf i gael ei roi dan glo gan y llys yn yr Hâg, yn yr Iseldiroedd, ers iddo gael ei sefydlu yn 2002.
“Mae Mr Gbagbo wedi cael ei ddwyn o flaen ei well am ei gyfrifoldeb personol yn yr ymosodiadau yn erbyn bobol gyffredin, a wnaed gan y lluoedd oedd yn gweithio ar ei ran,” meddai’r erlynydd Luis Moreno-Ocampo mewn datganiad.
“Fe fydd yn cael ei ystytyried yn ddi-euog nes y profir e’n euog, ac fe fydd yn derbyn hawliau llawn a’r cyfle i amddiffyn ei hun.”
Pwysleisiodd Luis Moreno-Ocampo fod y ddwy ochr yn y Traeth Ifori wedi cyflawni troseddau yn yr anrhefn wedi’r etholiadau, a bod ei ymchwiliadau yn parhau.
“Fe fyddwn yn casglu tystiolaeth yn ddiduedd ac yn annibynnol, ac yn dwyn rhagor o achosion o flaen y barnwyr, dim ots pa ddaliad glweidyddol,” meddai.
“Mae’n rhaid i arweinwyr ddeall nad yw trais bellach yn opsiwn er mwyn dal gafael nac ennill grym. Mae’r adeg lle gellid osgoi cosb am y troseddau hyn wedi dod i ben.”
Aeth llu o geir â Laurent Gbagbo i uned gadw’r llys, ger Môr y Gogledd, yn dilyn taith dros nos ar awyren, a laniodd yn yr Iseldrioedd am 4am.