Mae’r berthynas rhwng Pacistan ac America wedi chwerwi ymhellach yn sgil ymosodiad gan awyrennau drôn Nato pryd y cafodd 24 o filwyr Pacistan eu lladd.

Mae Nato yn cydnabod bod yr ymosodiad – a oedd yn targedu terfysgwyr mewn ardal fynyddig yr y ffin rhwng Pacistan ac Afghanistan – yn debygol o fod wedi lladd y milwyr mewn camgymeriad, a dywed bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r digwyddiad.

Gan gyhuddo’r Americanwyr o sathru ar sofraniaeth y wlad, mae llywodraeth Pacistan wedi cau rhan o’r ffin rhyngddi ac Afghanistan sy’n cael ei defnyddio i gludo cyflenwadau i filwyr Nato. Mae hefyd ac wedi gorchymyn America i adael canolfan filwrol y mae’n ei defnyddio ar gyfer ei awyrennau drôn.

Cyhoeddodd Pacistan y mesurau diweddaraf i Nato mewn datganiad ar ôl cyfarfod brys o bwyllgor amddiffyn y cabinet, o dan gadeiryddiaeth y prif weinidog Yousuf Raza Gilani.

Dywed y datganiad hefyd y bydd Pacistan yn adolygu pob cydweithrediad diplomyddol a  milwrol a phob trefniant i rannu gwybodaeth gudd gydag America a lluoedd eraill Nato.