Lansiad y daith i blaned Mawrth heddiw (o wefan Nasa)
Mae miloedd o bobl wedi bod yn gwylio lansiad taith robot i’r blaned Mawrth yng Nghanolfan Ofod Kennedy yn Florida heddiw.

Mae disgwyl i’r peiriant chwe olwyn, o’r enw Curiosity, gymryd wyth mis a hanner i deithio’r 354 miliwn o filltiroedd trwy’r gofod.

Mae Curiosity yn pwyso tunnell ac mae tua’r un faint â char. Mae’n labordy symudol sy’n cynnwys 10 o wahanol offerynnau gwyddonol a fydd yn dadansoddi samplau o bridd a chreigiau ar y blaned.

Fe fydd yn treulio dwy flynedd yn chwilio am dystiolaeth fod amodau ffafriol i fywyd meicrobau wedi bod ar y blaned ar unrhyw adeg – neu’n dal i fod.

Mae’r daith yn costio 2.5 biliwn o ddoleri (£1.6 biliwn).