Silvio Brrlusconi - gwadu'r cyhuddiadau
Mae’r actor George Clooney ymhlith mwy na 200 o dystion sydd wedi cael eu derbyn gan lys yn Milan i roi tystiolaeth mewn achos llys yn erbyn cyn Brif Weinidog y wlad.

Mae Silvio Berlusconi wedi ei gyhuddo o dalu am ryw gyda phutain dan oed.

Yn ôl George Clooney, fe aeth tîm cyfreithiol Berlusconi ato i ofyn iddo roi tystiolaeth ynglŷn â phartion “bunga bunga” yn fila’r cyn-arweinydd.

Ond mae’r actor yn dweud mai dim ond unwaith erioed yr oedd wedi ymweld â chartref Berlusconi, pan oedd yn ceisio sicrhau arian ar gyfer apêl Darfur, ac fe wrthododd y cynnig i aros.

Mae cyfreithiwr Berlusconi, Niccolo Ghedini, yn dweud fod George Clooney a Cristiano Ronaldo ar restr tystion yr amddiffyn gan fod tyst pwysig yn achos yr erlyniad wedi eu henwi.

Be mae Clooney’n ei ddweud

Dywedodd George Clooney ei fod yn barod i roi tystiolaeth, ond nad oedd “yn y parti bunga bunga”.

“Fe es i yno i drafod Darfur … Roedd hi’n sgwrs ddifyr iawn a dweud y lleia’, ac fe drodd y digwyddiad yn rhywbeth gwahanol iawn i’r hyn yr oedd pawb yn ei ddisgwyl.”

Yn ôl George Clooney, fe gafodd ei wahodd i aros i barti ar ddiwedd y cyfarfod, ond dywedodd ei fod wedi gwrthod y cynnig.

Mae’r rhestr tystion hefyd yn cynnwys Karima el-Mahroug, y ferch yn ei harddegau o Moroco y mae erlynwyr yn honni oedd y butain dan oed a gysgodd gyda Berlusconi am arian.

Mae hi a Berlusconi, sy’n 75 oed, wedi gwadu eu bod wedi cael perthynas rywiol.

Y cefndir

Wrth dderbyn y tystion, mae’r llys yn cytuno fod eu tystiolaeth yn berthnasol, er y gallai unrhyw ochr benderfynu yn ddiweddarach nad oes angen eu galw.

Bydd Berlusconi yn wynebu cyhuddiad o ddefnyddio’i ddylanwad guddio’i gysylltiad â’r butain dan oed, ar ôl sicrhau ei bod yn cael ei rhyddhau o’r ddalfa, ar ôl cael ei dal ar amheuaeth o ddwyn.

Mae Berlusconi’n gwadu’r cyhuddiadau, ac mae’n dweud ei fod wedi ceisio’i rhyddhau o’r ddalfa am ei fod yn credu mai nith cyn-arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak, oedd hi.