Senedd Gwlad Groeg
Mae’r heddlu sy’n goruchwylio’r Senedd yng Ngwlad Groeg wedi tanio nwy dagrau a grenadau at derfysgwyr wrth i filoedd orymdeithio drwy Athen yn ystod protest flynyddol i lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau.

Roedd dwsinau o bobol ifainc yn gwisgo mygydau wedi torri’n rhydd o’r dorf o oddeutu 7,000, i daflu bomiau petrol at heddlu terfysgaeth. Roedd yr heddlu wedi ymateb drwy danio nwy dagrau at y dorf.

Mae’r brotest flynyddol er cof am wrthdystiad gan fyfyrwyr ym 1973 oedd yn gwrthwynebu’r unbennaeth filitaraidd oedd yn llywodraethu Gwlad Groeg rhwng 1967-74, ac a gafodd gefnogaeth yr Unol Daleithiau.

Daw’r brotest ddiwrnod ar ôl i Lucas Papademos, sydd wedi ffurfio llywodraeth glymblaid newydd yn y wlad, ennill pleidlais o hyder yn y senedd.

Mae’n wynebu her wrth i’r wlad geisio fynd i’r afael â’i dyledion anferthol.