Arlywydd Assad
Mae Arlywydd Syria yn wynebu her cynyddol i’w reolaeth haearnaidd wrth i wrthryfelwyr lansio ymosodiad arall ar y fyddin, ac wrth i arweinwyr byd edrych ar y posibilrwydd o gynnal y wlad heb Basher Assad.

Yn y cyfamser, mae llysgennad Ffrainc wedi  gadael Damascus ar ôl ymosodiadau ar y gwasanaethau llysgenhadol yn y wlad a’r cynnydd mewn trais o ganlyniad i’r gwrthryfel sydd wedi para wyth mis.

Fe rybuddiodd Gweindiog Tramor Ffrainc Alain Juppe bod Paris yn cydweithio gyda’r gwrthbleidiau yn Syria i geisio ffurfio llywodraeth newydd i’r wlad.