Mario Monti
Mae’r economegydd Mario Monti wedi derbyn y dasg anferthol o geisio ffurfio llywodraeth newydd er mwyn achub yr Eidal.

Cafodd ei ddewis yn olynydd i Silvio Berlusconi ar ôl iddo ildio’r awenau yn dilyn beirniadaeth o’i arweinyddiaeth.

Yr her gyntaf sy’n wynebu Mario Monti yw mynd i’r afael â dyledion

y wlad o £1.6 triliwn. Ond dywedodd ei fod yn hyderus y gallai’r wlad sefydlogi os fydd pawb yn cyd-weithio gyda’i gilydd.

Fe fydd Mario Monti nawr yn gorfod dewis ei gabinet, cyhoeddi ei flaenoriaethau, a gweld os oes ganddo ddigon o gefnogaeth yn y Senedd i lywodraethu.

Roedd gwerth cyfranddaliadau ar y farchnad stoc wedi codi bore ma ar ôl y cyhoeddiad bod Mario Monti, 68 oed, wedi ei benodi.