Berlusconi - yn mynd
Mae marchnadoedd stoc ar draws y byd wedi codi yn sgil y newydd bod Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, yn mynd i ymddiswyddo.
Roedd prisiau cyfrannau ar Wall Street yn Efrog Newydd eisoes wedi codi ddiwedd y dydd ddoe a, thros nos, fe gododd marchnadoedd yn Asia o rhwng 0.8% a 2.3%.
Roedd Berlusconi wedi goroesi mwy na 50 o bleidleisiau hyder tros achosion yn amrywio o lygredd i anlladrwydd ond fe ddaeth ei ddiwedd oherwydd yr Ewro.
‘Deall yr oblygiadau’
Fe gyhoeddodd ddoe y bydd yn ymddiswyddo unwaith y bydd Senedd yr Eidal wedi derbyn cyllideb newydd ymhen tua phythefnos.
Roedd wedi ennill pleidlais hyder arall ond wedi colli ei fwyafrif yn y Senedd ac fe aeth i gyfleu ei benderfyniad i Arlywydd yr Eidal, Giorgio Napolitana.
Yn ôl yr Arlywydd, roedd y Prif Weinidog wedi “deall oblygiadau” y bleidlais.
Y cefndir
Gobaith y marchnadoedd yn awr yw y bydd yr Eidal yn mynd ati i ddelio gyda’i phroblemau o ran cyllid a chost benthyg.
Yn wahanol i weldydd fel Gwlad Groeg neu Iwerddon, mae economi’r Eidal yn rhy fawr i gael ei hachub gan wledydd eraill parth yr Ewro.
Y pryder yw y gallai argyfwng dwysach yno wanhau’r arian ei hun.