Mae mesurau brys wedi cael eu cyflwyno ar hyd a lled yr Eidal er mwyn mynd i’r afael ag argyfwng coronavirus.
Does neb yn cael teithio i mewn nac allan o’r wlad oni bai bod rhaid, ac mae pobol wedi’u hatal rhag ymgynnull yn gymdeithasol mewn torfeydd.
Daw’r mesurau ddeuddydd ar ôl cyflwyno mesurau tebyg yng ngogledd y wlad yn unig, ac mae’r prif weinidog Giuseppe Conte yn annog pobol i aros yn eu cartrefi.
Dim ond am resymau gwaith, iechyd neu resymau gorfodol eraill y bydd pobol yn cael teithio.
“Rhaid newid ein harferion nawr,” meddai’r prif weinidog.
“Mae’n rhaid i ni i gyd roi’r gorau i rywbeth er lles yr Eidal.
“Pan dw i’n sôn am yr Eidal, dw i’n sôn am ein hanwyliaid, ein neiniau a’n teidiau a’n rhieni.
“Dim ond os ydyn ni’n cyd-dynnu ac yn addasu ar unwaith i’r arferion mwy llym hyn y byddwn ni’n llwyddo.”
Bydd y mesurau yn eu lle tan Ebrill 3, ac maen nhw’n cynnwys cau ysgolion, prifysgolion, bariau, bwytai a chaffis gyda’r hwyr.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Daeth 1,807 o achosion newydd o coronavirus i’r fei nos Lun (Mawrth 9).
Mae’n golygu bod cyfanswm o 9,172 o achosion yn y wlad hyd yn hyn, gyda 97 o farwolaethau’n mynd â’r cyfanswm i 463, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n oedrannus neu’n sâl oherwydd cyflyrau eraill.
Er bod cyfanswm yr achosion yn ail yn unig i Tsieina, dydy Eidalwyr ddim wedi bod yn gwrando ar gyngor y llywodraeth.
Ar y dechrau, roedd mesurau yn eu lle mewn 11 o drefi yng ngogledd y wlad, lle mae oddeutu 50,000 o bobol yn byw.
Ond mae’r ardal wedi cael ei hymestyn yn raddol.
Mae unrhyw un sy’n mynd yn groes i’r mesurau’n wynebu hyd at dri mis o garchar.