Mae o leiaf 10 o bobol wedi marw ac mae 23 yn rhagor ar goll ar ôl i westy oedd yn cael ei ddefnyddio yn y frwydr yn erbyn coronavirus yn Tsieina gwympo.

Aeth 71 o bobol yn sownd o dan y rwbel yn ninas Quanzhou, yn ôl yr awdurdodau, ac mae 38 wedi cael eu hachub hyd yn hyn.

Roedd y gwesty yn hafan ar gyfer pobol sydd wedi dod o ardaloedd lle mae achosion o coronavirus, ond roedden nhw i gyd wedi cael profion negyddol.

Mae dinasoedd yn y wlad yn ynysu pobol o’r ardaloedd hynny am 14 o ddiwrnodau.

Mae ymchwiliad ar y gweill.