Mae Donald Trump yn dweud bod beirniadaeth y Democratiaid o’i ymateb i argyfwng coronavirus ar draws y byd yn “newyddion ffug”.
Daeth sylwadau arlywydd yr Unol Daleithiau wrth iddo annerch rali yn Ne Carolina ddiwrnod cyn i bobol fwrw eu pleidlais yno ym mhleidlais gychwynnol y dalaith ar gyfer yr arlywyddiaeth.
Mae’n cyhuddo’r wrthblaid o chwarae gêm wleidyddol yn sgil yr argyfwng iechyd, gan amlinellu’r camau mae e wedi eu cymryd er mwyn atal y firws rhag lledu ar draws y wlad.
Mae dau achos wedi’u cadarnhau yn yr Unol Daleithiau erbyn hyn, gydag un ohonyn nhw’n unigolyn sydd heb deithio allan o’r wlad nac wedi dod i gyswllt uniongyrchol â rhywun sydd wedi bod dramor.
“Does ganddyn nhw ddim clem, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gallu cyfri eu pleidleisiau yn Iowa,” meddai Donald Trump wrth gyfeirio at ddigwyddiad ar Chwefror 3.
“Fe wnaethon nhw drïo’r newyddion ffug uchelgyhuddo… dyma’u newyddion ffug newydd nhw.”
‘Bai Donald Trump yw e’
Yn ôl rhai Democratiaid, gallai Donald Trump fod wedi ymateb yn gynt i’r argyfwng coronavirus.
Ond mae’n dweud bod y Democratiaid am ei weld e’n methu, gan ddadlau ei fod e wedi gweithredu er mwyn lleihau’r risg i drigolion yr Unol Daleithiau.
Fe bwysleisiodd na fu farw unrhyw un yn y wlad o’r firws.
“Mae’r firws a ddechreuodd yn Tsieina yn lledu i nifer o wledydd o amgylch y byd, dydy e ddim yn lledu’n eang o gwbl yn yr Unol Daleithiau oherwydd y camau cynnar wnes i a fy ngweinyddiaeth eu cymryd, yn groes i ddymuniadau llawer o bobol, ac unig bwynt trafod y Democratiaid yw… mai bai Donald Trump yw e,” meddai.