Mae’r Eidal wedi ymateb ar frys i geisio atal coronavirus rhag lledu wrth i nifer y bobol sydd wedi’u heintio godi i 152. Mae pedwar o bobol bellach wedi marw o’r firws.

Mae Carnifal Fenis a gemau pêl-droed uwch-gynghrair wedi cael eu canslo mewn ymgais i atal y firws rhag lledu. Mae amgueddfeydd hefyd wedi cael gorchymyn i gau eu drysau yn Fenis a Lombardy gerllaw.

Yn y cyfamser mae bysys, trenau a chychod yn Fenis yn cael eu diheintio, meddai llywodraethwr rhanbarthol Veneto, Luca Zaia.

Yn Milan fe fydd ysgolion, amgueddfeydd, discos, tafarndai a sinemâu yn parhau ynghau am o leiaf saith diwrnod.

Yr Eidal sydd a’r nifer fwyaf o achosion o coronavirus yn Ewrop.

Awstria

Yn Awstria mae pryder yn cynyddu hefyd ar ôl i drên gael ei stopio ar y ffin gyda’r Eidal am rai oriau yn dilyn adroddiadau y gallai dau deithiwr fod wedi cael eu heintio, meddai’r awdurdodau.

Cafodd trenau eu gwahardd rhag croesi’r ffin ond mae rheilffordd Awstria wedi cyhoeddi bellach bod y gwaharddiad wedi’i godi.

Dywedodd gweinidog cartref Awstria, Karl Nehammer, bod y ddau berson oedd yn cael eu hamau o fod a’r firws ar drên Eurocity 86 o Fenis i Munich, wedi cael prawf negatif a bod y trên yn cael parhau a’i thaith.