Silvio Berlusconi
Mae Prif Weinidog yr Eidal wedi taro bargen sy’n llacio ychydig ar y pwysau ar arweinwyr yr Ewro – ac yn achub ei yrfa yntau am y tro.

Dros nos, fe lwyddodd Silvio Berlusconi i ddod i gytundeb gyda phlaid fechan y Gynghrair Ogleddol i gymryd camau ariannol i hybu twf a mynd i’r afael â dyledion y wlad.

Mae hynny’n cynnwys codi oed ymddeol yn raddol o 65 i 67 erbyn 2025.

Hwb i’r arweinwyr

Fe allai’r penderfyniad roi hwb i arweinwyr gwledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n cwrdd heddiw i drafod argyfwng yr Ewro.

Mae pryder y bydd yr Eidal yn dilyn Gwlad Groeg i mewn i drafferthion ariannol mawr gan orfodi’r gwledydd eraill i’w hachub.

Yn ôl sylwebyddion gwleidyddol yn yr Eidal, roedd y bygythiad i Silvio Berlusconi’n fwy hyd yn oed na’r holl sgandalau sydd wedi bod yn ystod ei gyfnod mewn grym.