Mae milwr wedi saethu o leiaf ddau o bobol yn farw yng ngogledd-ddwyrain Gwlad Thai.
Cafodd nifer o bobol eu saethu yn y digwyddiad yn ninas Nakhon Ratchasima, sydd hefyd yn cael ei hadnabod wrth yr enw Korat.
Yn ôl yr heddlu, roedd y saethwr wedi bod mewn ffrae ynghylch cytundeb tir ac wedi saethu dau o bobol eraill oedd yn rhan o’r ffrae.
Cafodd trydydd person ei anafu.
Fe wnaeth e ffoi o safle’r ffrae yn fuan wedyn, gan saethu pobol ar hap ar ei ffordd i ganolfan siopa.
Bu’n rhaid cau’r ganolfan wrth i’r awdurdodau geisio arestio’r dyn.