Mae’r seren Hollywood o Gymru, Catherine Zeta-Jones, wedi arwain teyrngedau i’w diweddar dad yng nghyfraith, Kirk Douglas.

Roedd yntau’n actor byd enwog a fu mewn sawl ffilm glasurol gan gynnwys Spartacus, Ace in the Hole a Champion.

Bu farw’n 103 oed yn Beverly Hills ar dydd Mercher (Chwefror 5), a chafodd hynny ei gyhoeddi mewn neges dyner gan ei fab Michael Douglas.

Mae’r mab wedi ennill dau Oscar am ei waith actio, ac mae’n briod â’r actores o Abertawe, Catherine Zeta-Jones.

“Bydda i’n dy garu am weddill fy mywyd,” meddai’r seren o Gymru. “Dw i’n gweld dy eisiau yn barod. Cysga’n dawel…”