Cyrnol Gaddafi
Mae cyn-arweinydd Libya Muammar Gaddafi, ei fab Muatassim a swyddog arall wedi cael eu claddu mewn lle dirgel bore yma, yn ol adroddiadau.

Roedd rhai aelodau o deulu Gaddafi a swyddogion yn bresennol, yn ôl llefarydd ar ran cyngor milwrol Misrata.

Dywedodd y llefarydd, Ibrahim Beitalmal, bod cyrff y tri wedi cael eu claddu am 5am bore ma. Roedd eu cyrff wedi eu cadw mewn storfa yn Misrata ers i Gaddafi gael ei ddal a’i ladd ger ei dref enedigol Sirte ddydd Iau.

Bu farw oriau’n unig ar ôl cael ei ddal gan wrthryfelwyr ac mae arweinwyr newydd Libya wedi addo cynnal ymchwiliad i’w farwolaeth.

Dywedodd Ibrahim Beitalmal na fyddai man ei fedd yn cael ei wneud yn hysbys er mwyn atal fandaliaeth.