Mae pennaeth tros dro Libya wedi ceisio tawelu ofnau gwledydd y Gorllewin y bydd y wlad yn mynd i ddwylo Moslemiaid caeth.
Mae Mustafa Abdul-Jalil yn mynnu y bydd y wlad yn ddemocrataidd ac mai Moslemiaid cymedrol fydd yn rheoli.
Roedd rhai o wledydd y Gorllewin wedi mynegi pryder ar ôl i arweinydd y Cyngor Trawsnewid Cenedlaethol gyhoeddi mai cyfraith Sharia’r Moslemiaid fyddai yn Libya.
Claddu mewn lle dirgel
Yn y cyfamser, mae mwy a mwy o bwysau ar y llywodraeth dros dro i gynnal ymchwiliad i’r ffordd y cafodd y cyn unben, Muammar al-Gaddafi, ei ladd ar ôl ei gaethiwo.
Mae’n ymddangos fod ei gorff ef, un o’i feibion a’i Weinidog Amddiffyn wedi cael eu symud o farwdy ar gyfer eu claddu.
Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, fe fydd hynny mewn bedd heb ei nodi mewn ardal ddirgel – rhag ofn fandaliaid.
Ac mae mudiad hawliau dynol, Human Rights Watch, wedi mynegi pryder am ladd a dwyn yn Libya, gan honni fod un bedd torfol wedi’i ffeindio yn Sirte, cadarnle ola’ Gaddafi.