William Hague
Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi annog pobol Libya i osgoi dial wrth ail-adeiladu’r wlad, ar ôl i Brydain alw ar y llywodraeth newydd i ymchwilio i farwolaeth y Cyrnol Muammar Gaddafi.

Ddoe, roedd arweinydd dros dro Libya, Mustafa Abdul Jalil, wedi cyhoeddi wrth dorfeydd yn Benghazi bod y wlad yn rhydd.

Mae William Hague wedi croesawu’r datblygiadau diweddara gan ddweud ei fod yn gyfle i’r wlad “weithio gyda’u gilydd mewn proses wleidyddol newydd.”