Yn dilyn penderfyniad gan brif lys yr Undeb Ewropeaidd mae Senedd Ewrop am dderbyn cyn-arlywydd Catalwnia Carles Puigdemont, y cyn is-lywydd Oriol Junqueras a’r cyn-weinidog Toni Comin yn aelodau o Senedd Ewrop yr wythnos nesaf.

Daw’r dewis yn dilyn penderfyniad y mis diwethaf gan Lys Cyfiawnder Ewrop, a wyrdroodd ddyfarniad yn atal Carles Puigdemont a Toni Comin rhag cymryd eu seddi yn Senedd Ewrop. 

Mewn datganiad dywedodd Senedd Ewrop y bydd y tri yn cael ei derbyn i Senedd Ewrop “heb unrhyw oedi pellach”.

Dedfrydwyd Oriol Junqueras ym mis Hydref am 13 mlynedd am wrthryfela, ac mae Carles Puigdemont a Toni Comin a arweiniodd y cyrch am annibyniaeth wedi ffoi i Wlad Belg ers 2017. 

Dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop fod Oriol Junqueras yn ogystal â Carles Puigdemont a Toni Comin a hawl i imiwnedd wedi iddynt gael eu hethol yn Aelodau Senedd Ewrop fis Mai diwethaf.

Mae atwrnai gwladwriaeth Sbaen wedi galw am ryddhau Oriol Junqueras dros dro er mwyn iddo gael ei dderbyn fel aelod o Senedd Ewrop.