Yn ei gynhadledd gyntaf i’r wasg eleni dywedodd Mark Drakeford mai llymder, Brexit a newid hinsawdd yw ei brif flaenoriaethau eleni.

Dywedodd y bydd ei lywodraeth yn parhau i gynnig llais am y pethau sy’n bwysig i Gymru er mwyn “gwarchod ein heconomi a swyddi”.

Er bod Prif Weinidog Cymru bellach yn cydnabod y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd mis Ionawr dywedodd mai nod Llywodraeth Cymru yw “canolbwyntio ar y ffordd rydym ni’n gadael” a sicrhau perthynas gydag Ewrop.

Bydd gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol a Senedd yr Alban roi cysyniad i’r cytundeb, ac mae Mark Drakeford wedi annog aelodau’r cynulliad i bleidleisio yn ei erbyn.

“Ni fyddem yn rhoi cysyniad i’r cytundeb gan fod nifer o bethau sydd ddim yn gweithio i ni,” meddai.

Er hyn ni fydd gwrthwynebiad gan aelodau’r cynulliad yng Nghymru nac yr Alban yn atal Boris Johnson rhag pasio ei gytundeb ddiwedd fis Ionawr.

Methu targed gwasanaeth Ambiwlans

Dywedodd Mark Drakeford yn y gynhadledd i’r wasg fod y gwasanaeth iechyd wedi wynebu “pwysau sylweddol” dros gyfnod y Nadolig.

Fe arweiniodd hynny at y gwasanaeth Ambiwlans yn methu ei darged am y tro cyntaf.

Ond dywedodd Mark Drakeford bod “y cynlluniau a gafodd eu rhoi mewn lle gan y llywodraeth yn gynharach yn y flwyddyn ddiwethaf i baratoi’r Gwasanaeth Iechyd ar gyfer y gaeaf yn parhau i weithio.”

Dim cefnogaeth i ymgeiswyr fydd yn olynu Corbyn

Yn yr un modd a wnaeth ei ragflaenydd Carwyn Jones, cadarnhaodd Mark Drakeford, arweinydd  Llafur Cymru, na fydd yn cefnogi unrhyw ymgeisydd yn y ras i olynu Jeremy Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur – “fel Prif Weinidog bydd rhaid delio gyda phwy bynnag sy’n cael ei ethol”.