Fe fydd sioe tân gwyllt Sydney yn cael ei chynnal er gwaetha’r tanau mawr sydd ar led yn Awstralia, yn ôl y prif weinidog Scott Morrison.
Mae’n dweud bod angen dangos gwytnwch, ond mae’r gwasanaethau brys yn rhybuddio y gallai’r sioe cael ei chanslo ar yr unfed awr ar ddeg pe bai’r sefyllfa’n gwaethygu eto.
Mae pryderon am gynefinoedd bywyd gwyllt yr ardal a’r angen i fod yn sensitif yn sgil y dinistr i eiddo.
Bu farw naw o bobol hyd yn hyn, ac mae dros 1,000 o gartrefi wedi cael eu colli yn nhalaith New South Wales.
Mae Scott Morrison wedi cyhoeddi y bydd y rhai sydd wedi’u heffeithio yn derbyn iawndal, gan gynnwys diffoddwyr tân y dalaith.
Yn y cyfamser, mae rhybudd y gallai’r tymheredd ar draws y wlad godi eto, a’r disgwyl yw y gallai gyrraedd 41 gradd selsiws.